Pam fod Llywodraethu’n bwysig?
Ond pam fod Llywodraethu’n bwysig? Llywodraethu yw’r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfrifoldebau cyfreithiol, rheolaethol a moesol sy’n deillio o fod yn ymddiriedolwr. Nod y wefan hon yw helpu unigolion sy’n ymddiriedolwyr ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n ystyried gwirfoddoli ar gyfer rôl o'r fath, i ddeall ac ymgymryd â’u dyletswyddau llywodraethu yn well. Mae’n darparu arweiniad cryno ac arweiniad manylach, yn ogystal â gwybodaeth am lu o adnoddau defnyddiol yn cynnwys y cyfleuster i gyfnewid gwybodaeth gyda chyd-ymddiriedolwyr ac i nodi cyfleoedd i wirfoddoli fel ymddiriedolwr.
Mae proffil y sector gwirfoddol wedi tyfu wrth iddo ddod yn fwyfwy cyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae hyn, ynghyd ag ymddiriedolwyr yn cael mwy o ryddid gan y Comisiwn Elusennau a’r cyfrifoldeb ychwanegol y mae ymddiriedolwyr yn ei ysgwyddo’n gyffredinol, yn golygu bod mudiadau gwirfoddol yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ymagwedd fwy 'proffesiynol' at lywodraethu. Bwriad adrannau gwahanol y wefan hon yw helpu ymddiriedolwyr i gyflawni’r nod hwn drwy:
- Newyddion – yr holl newyddion diweddaraf am y sector a WCVA, yn ogystal â mynediad i archif newyddion Ymddiriedolwyr WCVA.
- Arweiniad - y porth i’n harweiniad ar lywodraethu a gyflwynir mewn amrywiaeth o gategorïau a fformatau.
- Hyfforddiant a digwyddiadau – gwybodaeth am hyfforddiant a digwyddiadau defnyddiol yn ymwneud â llywodraethu a ddarperir gan WCVA ac eraill.
- Cyfleoedd – cyfleuster i hysbysebu swyddi ymddiriedolwyr gwag neu i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli yn eich ardal.
- Fforwm Ymddiriedolwyr – y cyfle i gysylltu â chyd-ymddiriedolwyr am amrywiaeth eang o faterion, rhannu arferion gorau a chael cymorth gyda phroblemau llywodraethu.
- Cwestiynau cyffredin am y wefan – atebion i gwestiynau a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’r safle hwn.