M - Rh


Mudiad gwirfoddol a’r sector gwirfoddol

Prif ffocws mudiad gwirfoddol yw darparu budd cymdeithasol ar sawl ffurf, yn hytrach na chynhyrchu elw i’w ddosbarthu i’w aelodau. Fel arfer bydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, bydd yn annibynnol ar y llywodraeth a bydd yn ceisio trosglwyddo’i asedau i fudiad tebyg petai’n dod i ben. Mae elusen yn fudiad gydag amcanion elusennol yn unig. Mae’r rhan fwyaf o elusennau, gyda rhai eithriadau, wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau dan ddarpariaethau Deddf Elusennau 1993, adran 3.

Mae WCVA wedi diffinio’r sector gwirfoddol fel sector ar gyfer mudiadau, ffurfiol neu anffurfiol, sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • anffurfiol neu ffurfiol (hy wedi mabwysiadu dogfen lywodraethu neu heb wneud hynny)
  • annibynnol (nid ydynt yn cael eu rheoli gan fudiad gwneud elw na'r wladwriaeth; rhaid i fudiadau gwirfoddol gael mwyafrif o gyrff, penodeion neu gynrychiolwyr anstatudol ar ei fwrdd ymddiriedolwyr a mwyafrif o aelodau anstatudol)
  • hunanlywodraethol
  • heb fod yn dosbarthu elw
  • yn cael budd yn sgîl cyfraniad dyngarol hy rhoddion ymarferol neu roi amser (e.e. gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr nad ydynt yn derbyn tâl)
  • wedi’i sefydlu er budd cyhoeddus

Mae’r diffiniad hwn yn debyg i’r diffiniad o sector gwirfoddol cul yn Kendal a Knapp (The voluntary sector in the UK (1996), Kendall J a Knapp M, John Hopkins Cyfres y Sector Di-elw 8, Gwasg Prifysgol Manceinion), ac mae’n cynnwys:

  • y rhan fwyaf o elusennau (gweler isod am yr eithriadau)
  • cymdeithasau tai
  • grwpiau cymunedol, ffurfiol ac anffurfiol
  • grwpiau hunan-gymorth a chyd-gymorth
  • grwpiau chwaraeon sy’n rhoi mantais gymunedol
  • grwpiau crefyddol sy’n rhoi mantais gymdeithasol
  • grwpiau ymgyrchu anwleidyddol
  • busnesau cymunedol
  • undebau credyd

Dyma'r elusennau nad ydynt wedi'u cynnwys: Cronfeydd ymddiriedolaethau’r GIG, Cronfeydd Deddf yr Eglwys yng Nghymru, cronfeydd ymddiriedolaeth ysgolion, mannau addoli, hyrwyddo a chefnogi crefydd, elusennau statudol, amgueddfeydd statudol, colegau addysg bellach annibynnol, cymdeithasau proffesiynol, ysgolion annibynnol elusennol, cwangos elusennol, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac elusennau eithriedig.

Dyma'r diffiniad yng Nghynllun y Sector Gwirfoddol, sy'n amlinellu'r berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector gwirfoddol:

cyrff (heblaw awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill) y mae eu gweithgareddau:

a) yn cael eu cyflawni at ddibenion heblaw gwneud elw, ac sydd

b) o fudd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru (p’un a ydynt o fudd hefyd i unrhyw ardal arall neu beidio)

Cynllun y Sector Gwirfoddol para 1.1

Manylir ar hwn yn ddiweddarach yn y ddogfen i gynnwys:

mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, grwpiau hunan gymorth, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymunedol , mudiadau crefyddol a mudiadau eraill nad ydynt yn gweithredu er mwyn gwneud elw ac sy'n dod â budd i gymunedau a phobl Cymru.

Cynllun y Sector Gwirfoddol para 2.1

Rhoi cymynrodd

Eitem, swm penodol o arian neu ganran o ystad person a roddir i elusen unwaith y bydd y rhoddwr wedi marw yw cymynrodd. Mae rhoi cymynrodd yn ffurf sensitif ond traddodiadol o godi arian ac mae’n darparu incwm sylweddol i’r sector Dyma'r ddau brif fath o gymynrodd:

  • Cymynroddion gweddilliol – unwaith y darperir ar gyfer y teulu ac anwyliaid, mae gweddill neu gyfran o ystad yr ymadawedig yn cael ei addo i un neu fwy o elusennau.
  • Cymynroddon ariannol – lle mae’r ymadawedig wedi addo swm penodol o arian i elusen neilltuol.

Mae cymynroddion elusennol yn dreth-effeithiol gan eu bod yn gostwng cyfanswm y dreth etifeddu sy’n ddyledus ar ystad yr ymadawedig. Gadewir cymynroddion trwy ewyllys y rhoddwr neu'n syml trwy ddatganiad i ysgutorion gyda chyfarwyddiadau ynghylch sut ac i ba elusen y dylid dosbarthu'r gymynrodd.

Trothwy presennol y dreth etifeddu yw £300,000 (o 06.04.07). Mae’r trothwy’n cynyddu ryw ychydig bob blwyddyn. Rhaid talu treth etifeddu ar gyfradd o 40% ar unrhyw swm a adewir fel rhan o ystad yr ymadawedig dros y trothwy. Mae unrhyw roddion a wneir i elusen o’r ystad yn lleihau’r swm y mae’n rhaid talu treth etifeddu arno a gall adael y sawl sy’n derbyn yr ystad â mwy o arian yn ei boced.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cymru’n Rhoi WCVA.

Rhoi trwy’r gyflogres

Mae’r Cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres yn ffordd rwydd a chyfleus i roddwyr gefnogi’u hoff achosion yn ymwybodol ac yn rheolaidd yn dreth-effeithiol.

Mae rhoi drwy’r gyflogres yn dreth-effeithiol yn y ffynhonnell, didynnir rhoddion misol o gyflog y gweithiwr cyn didynnu treth, sy’n golygu ei fod yn costio llai i’r rhoddwr a gallant roi mwy. Er enghraifft, byddai trethdalwr ar y gyfradd sylfaenol (22% treth incwm) yn talu £7.80 yn unig o'i gyflog net (cyflog yn y boced), er y bydd yr elusen yn derbyn £10.00 ganddo. Byddai trethdalwr ar gyfradd uwch (40%-60%) yn talu llai hyd yn oed, dim ond £6.00 o’i gyflog net.

Mae prosiect Cymru’n Rhoi WCVA yn helpu’r cynllun Rhoi Drwy’r Gyflogres yng Nghymru drwy ei bartneriaeth gydag Asiantaeth Rhoi Drwy’r Gyflogres (South West Charitable Giving). Codir tâl weinyddu o ryw 5% ar roddion Rhoi drwy’r Gyflogres gan y rhan fwyaf o Asiantaethau. Ond yng Nghymru, mae’r cynllun Cymru’n Rhoi yn ddi-dâl sy’n sicrhau bod 100% o roddion Rhoi Drwy’r Gyflogres yn cyrraedd yr elusennau a enwebir.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cymru’n Rhoi WCVA.