Croeso

Croeso i wefan Ymddiriedolwyr a Llywodraethu WCVA, adnodd newydd ar gyfer y rhai sydd wedi gwirfoddoli i ymgymryd â’r her o redeg elusen neu fudiad gwirfoddol.

Mae'r trydydd sector yn cynnwys amrywiaeth eang o fudiadau di-elw sy’n cynnwys elusennau, mudiadau gwirfoddol anelusennol a mentrau cymdeithasol i enwi dim ond rhai. Mae’r adnodd hwn ar gyfer pawb sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu’r mudiadau hyn, pa un a ydynt yn ymddiriedolwyr elusennau neu’n aelodau o gyrff llywodraethu mudiadau anelusennol.

Ar y wefan hon, rydym yn galw pob mudiad yn y trydydd sector yn cynnwys elusennau yn: Fudiadau gwirfoddol, a holl aelodau cyrff llywodraethu, yn cynnwys ymddiriedolwyr elusennau, yn: Ymddiriedolwyr.

Darllenwch yr hyn a olygwn wrth y rhain:

Bydd y Cwestiynau Cyffredin am y Wefan yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi a fydd yn eich helpu i wneud yn fawr o’r safle hwn.