Adnodd dirwasgiad WCVA
24 Gorff 2009Mae WCVA wedi lansio ei Adnoddau i’r trydydd sector yn ystod y dirwasgiad ar y wefan. Mae'r adnodd un-pwrpas yma yn cynnig crynodeb cynhwysfawr o'r cyfarwyddyd, cyhoeddiadau, erthyglau a gwefannau arbenigol sy'n delio gyda'r materion sy'n wynebu'r trydydd sector yn y dirwasgiad presennol. Bydd ymddiriedolwyr a'r rheiny sy'n rheoli mudiadau trydydd sector yn ei gael yn ddechreubwynt gwerthfawr i roi cymorth gyda chwestiynau penodol, neu arwain at wybodaeth gyffredinol a fydd yn galluogi mudiadau i ddelio gyda phwysau economaidd cyfredol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.